Bronnau enwir brenhinoedd,
Ar dân gan awyddfryd oedd;
Am rwysg, ac am oresgyn
Yn eu rhaib—mynnai rhai hyn
Enw clod am ddwyn y cledd,
I rwygo meibion gwragedd.
Eu synwyr ar wasanaeth—fu oesau,
Dyfeisient ryfelaeth;
Drwy y byd yr ysbryd aeth.
I efrydu difrodaeth.
Yn eu bâr anwar llunient beiriannau,
Miniog, angeuol, ddeifiol gleddyfan;
Gwaewffyn erchyll, cyllyll, picellau,
Bwâu gwenwynig—hyllig fwyellau;
I roi 'u hanedwydd ryfelgar nwydau.
Ar weithrediad yn eu cadruthriadau;
I rwygo 'u gilydd å dreigiog aeliau;
Gwneyd celanedd, gan waedu calonnau,
A chreu yn niweidiol ddychryniadau;
Hyrddio 'n ingol fyrddiynau i angau:
Ba warth rhoi'r fath aberthau—i astrus
Awydd fyw wancus rhai am orseddfeinciau!
Dau d'wsog yn halog fygylu,
Yn ferwedig gan fradfwriadu;
A gwŷn chwerwnaws fel dau gi 'n chwyrnu,
A gerwin agwedd dan ysgyrnygu :
Asgwrn barai 'r terfysgu—f'ai rhyngddynt,
A hwy ni fyddynt well o'i feddu.
Am lain o dir, milain daerent—dau lyw,
A dwy wlad gynhyrfent;
Dwy genedl a gydgwnnent—yn awchus,
Mor ryfygus i'r gad ymarfogent!