Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un A'i grudd yn brudd, a'i bron
Ar dorri gan bryderon,
Trwy wyll anturiai allan,
Rhwng ofn maith a gobaith gwan:
Hi dro'i 'n ol adre' un waith,
Petruso wylo eilwaith;
Yna llwyth ei hofn ai'n llai,
Yn wrolach yr elai.
Tua'r maes, y cadfaes certh
Ar redfa, try y brydferth
Fenyw yn hyf el hwyneb,
Yno aeth heb ofni neb.
Elai, addfwyn wyleiddferch,
I'r maes hyll yng ngrym ei serch;
le, 'n 'i serch, gwnai neshau
Dan ingawl aden angau;
I ganol y farwolaeth
Ddeuai o swydd cledd a saeth.
Yno 'morol wnai Mari,
I weld oedd 'i hanwylyd hi
Yn y farwol dorf oerwedd,
Acw a las y ffyrnig gledd.
Boreu y gad, hagr-gad hon,
Cu rodíai y cariadon
Fraich yn mraich, a baich o boen
I'r ddau a barai ddihoen;
Yna rhaff y serch ai'n rhydd,
Wylent ar yddfau 'u gilydd;
I'w gilydd y ddwy galon
Ymdoddent, rhedent 'rawr hon.
Ond swn corn, llefgorn y llu,
Drwy 'u henaid wnai drywanu ;
Rhwygai 'i dreiddiol dyrfol dôn
I'w gwaelawd y ddwy galon.