Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith-Gwilym-Hiraethog-CyK.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

E roi y dewr filwr da—'n drwm ei fryd,
I ei anwylyd ei gusan ola'.

Loes i Mair, hi lesmeiriai,
Ar ei lin yn farwol ai.
Dybryd ar ol dadebru
O Mair, daeth y tymor du
I'r ddau gariad ymadaw,
Gyda llef wrth ysgwyd llaw:
Haws nag adrodd pa fodd fu,
O filwaith yw dyfalu.
I'r gad 'roedd ei alwad ef,
Ai yr odrist Fair adref.
Mawredd rheswm ar ddrysu,
Gan drallod y diwrnod du;
Dydd galar nad oedd gelu
Hwnnw i Fair fel blwyddyn fu.
Ar hŵyr y dydd mawr ei hyd,
Hi ni welai 'i hanwylyd;
Ennyd ar ol ennyd ai,
Gwyliodd, ond ef nis gwelai;
Ymgynnal dan ei halaeth,
Ni allai'n hwy—allan aeth.
Am feithion hirion oriau,
Gwnai'r un ffyddlon hon barhau;
Ei phryder yn nyfnder nos,
A'i thaerni drwy faith oernos,
Ni leihaodd, daliodd, do,
A chalon drom i chwilio,
Trwy anial faes trueni,
Fel hyn am ei Hedwyn hi.
Gwelai'n lliw goleuni lloer,
Gwanllyd belydrau Gwenlloer,
Ddu ol y mawr ddialedd,
Rhwygiadau clwyfan y cledd;