Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

damnedigaeth yr annuwiolion yn hollawl arnynt eu hunain, heb fod gan Dduw un llaw ynddo, oblegid fod y rhwystr o'u hachubiaeth, sef gwrthodiad eu hiachawdwriaeth, i gyd ynddynt eu hunain ; ac fe fydd y clod am achub yr etholedigion i gyd i Dduw, oblegid iddo faeddu eu cyndynrwydd a'i ras a'i gariad.

II. Dyoddef Crist. Nid yngwaith Crist yn dyoddef yr oedd y Tad yn cael ei foddloni fwyaf, ond yn ei foddlonrwydd i ddyoddef.

III. Y ddisgyblaeth, mater Sasiwn Caernarfon. Eisiau ysbryd efengylaidd i geryddu. Dywedodd un hen frawd,—"Pan welid proffeswr y dyddiau aeth heibio dywedid yn union 'O wyneb y gwr drwg,'—delw Duw yn ymddangos yngwyneb y proffeswr yn cynhyrfu'r elyniaeth oedd yn y llall i'w gablu." Dau balas cyfagos, ty gwr bonheddig a thafarndy; dyn budr aflan yn myned i mewn i un. Pam? Y sein wrth ben y drws. Geneth dduwiol yn gwrando ar fachgen annuwiol.

IV. Edifeirwch; y ffugiol a'r gwir.

V. Pechod dirgel. Aros yn y tân sy'n llosgi.

VI. Gwaith yr Yspryd Glan. Goleuo'r enaid. Ail enedigaeth.

ARGLWYDD dyro dy Yspryd

HYMN AR DDYDD NADOLIG.

ARGLWYDD dyro dy Yspryd
I hyfryd gadw gwyl,
I ganu mawl in Ceidwad
Gwna ein henaid oll mewn hwyl;
Duw y sy'n uwch na'r nefoedd,
Y baban gwael tlawd,
Fu'n gorwedd yn y preseb,
Ein brenhin mawr a'n brawd.