Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yma daw llythyr John Davies, yna hymnau

Fy ngwendid sydd yn fawr

Fy ngwendid sydd yn fawr,
Rwy'n syrthio yma a thraw;
Ni safai funud awr
Oni byddai yn dy law;
Dal fi, fy Nuw, dal fi o hyd,
Tra byddwy'n teithio'r anial fyd.

'Rwy'n teimlo hiraeth weithiau
Am weld y borau wawr,
Y llen wir fi á sancteiddrwydd
Ar ddelw fy Arglwydd mawr ;
Caf ymado byth a'm pechod,
A bod yn gwbl lån,
Caiff fy enaid sy yma'n oeri
Ei llenwi â'r nefol dân.


ENGLYN.

Ffynnon a gawson o gysur—'n y brawd
A briododd ein natur;
Mae fe'n briod parod pur,
A Cheidwad i bechadur.

Wedyn ceir cofnodion seiat ym Mathafarn, am brofiadau.

Sylwyd fod angen neillduol ini sylwi ar ddull ein hymddiried yng Nghrist, ai dan ei adnabod yr ydym yn ymddiried ynddo. Os felly yr ydym yn ddiogel. Dywedwyd cyffelybiaeth. Ped fae daw wr yn cydymdaith a'i gilydd, ac yn taro i ymddiddan yn gymdeithgar ar hyd y ffordd, ac i rywun arall ofyn i un ohonynt, "A adwaenoch chwi'r gwr oedd yn ymddiddan a chwi?" "Na adwaen i, ond gŵr ffeind neillduol yw." "Wel, a adwaenoch chwi ef?" "Yr wyf fi yn ei garu yn hynod." "Nid hyny mo'r pwynt, ond a