Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er mor dywyll yw yn awr

HYMN 10

Er mor dywyll yw yn awr,
Pwy wyr na welaf etto wawr ?
Oh am nerth, tra byddwy byw,
I ddyfal ddisgwyl wrth fy Nuw.

HYMN 11.

'Rwyf am gael treulio nyddiau

'Rwyf am gael treulio nyddiau
Yn alar ac yn gan,
Heb ddrysu gan negesau
'R byd a'i deganau man;
Galara wrth gofio'r codwm
Ym mha un y syrthiais i,
A chanu wrth fyfyrio
Ar Aberth Calfari.

Duw, cynnal fi er dy glod

HYMN 12.

Duw, cynnal fi er dy glod,
Tra y byddwi'n bod mewn byd
Sy'n llawn o lygredd oll
Yn gweld fy ngholl i gyd;
Ond hyn sy'n gysur im,
Fod grym yngwaed y groes
I'm dwyn yn mlaen a'm llwyr lanhau
Oddiwrth holl feiau fy oes.

'Rwy'n gweld yn ormod imi gael

HYMN 13.

'Rwy'n gweld yn ormod imi gael
Bod yn gadwedig,
Wrth edrych ar fy agwedd wael
Halogedig;
Ond prynwyd imi un prydnhawn
Gyflawn groesaw,
Wrth gofio hynny braidd na bawn
Yn gobeithiaw.