Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O na bawn i'n medru byw
Ar efengyl;
Cadw fy enaid, O fy Nuw,
Yn dy ymyl.

Calon wrthgiliedig gas
Wy'n ei gario;
O fy Arglwydd, dyro ras
i'w chongcwerio ;
Na ad ini dreilio fy oes
'Ngwlad y gogledd,
Dwg fi i olwg angau'r groes,
Lle mae rhinwedd.

Wrth edrych yma ac edrych draw

HYMN 9

Wrth edrych yma ac edrych draw,
Ni welai ond tywyllwch du,
Nes y caffwyf droi fy ngolwg
Tua mynydd Calfari;
Gwelai yno wawr yn codi
Eiff yn y man yn hyfryd ddydd,
Cwyd yr haul a ffu'r tywyllwch,
Llawenha, fy enaid prudd.

Pan fyddo'n dywyll tua Seinai,
Hi a oleua o Galfari,
Er fy mod yn ddwfn bechadur
Mae yno gysur byth i mi;
Clywai swn y gair - Gorphenwyd"
Yn uchel seinio'n beraidd lawn,
"Rhyddid, rhyddid," medd Cyfiawnder,
"Mi a gefais berffaith iawn."