Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Os cynhelir un mor egwan

Os cynhelir un mor egwan
I gyrraedd per y daith,
Y golchir un mor aflan.
Rhyfeddod fydd y gwaith;
Wrth gofio'r gwrthgiliadau,
Ar beiau fwy na rhi,
Bydd canu mwy am arfaeth
Ac aberth Calfari.


ARGLWYDD dyro awel dy Yspryd

HYMN 2

Ar y geiriau sydd yn Jeremiah, pen, 23, adn. 29.

ARGLWYDD dyro awel dy Yspryd,
Chwyth yn danllyd gyda dy air,
Gwna galonau adamantsidd
Fel yr arian yn y pair ;
Estyn allan fraich dy allu,
Ac ymafael yn dy ordd,
Drylta greigiau, tawdd fynyddoedd,
Hollt y dyfroedd, myn dy ffordd.

Oh am nerth i'mdrechu a Duw

HYMN 5

Oh am nerth i'mdrechu a Duw
Am y fendith,
Oh am ras o'r nef i fyy
Yn ddiragrith;
Oh am help yr Yspryd Glân
I weddio,
A'th gwmni yn y cwr a'r tân,
Arglwydd, dyro.

Arglwydd, cadw fi yn dy law,
Hyd y diwedd,
Na ad im wyro yma a threw
At anwiredd