Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dimbych, 1802. . . . Gofynwyd cwestiwn,—pa un fwyiaf o wasgfa oedd arnom am gael Duw, ai with fyned i weddio neu i bregethu ai wrth fyned i'r ffair neu ddelio a'r byd. Sylwiwyd mai byw gyda Duw a'n haddasa a'n haddasa yn ei waith, a'r perygl ini ddymuno ei gymdeithas a'i dangnefedd a'i gynorthwyon a'n cefn arno yn cofleidio eulunod.. Ei gael yw cael bywyd, ac yn y rhodiad gydag ef y mae adnewyddiad a chynydd mewn sancteiddrwydd.

Cofnodau Cymdeithasfa[1] Machynlleth, 1804, am waith yr Yspryd Glan..... Cofnodau Cymdeithasfa'r Bala, 1804, am waith yr Yspryd Glân.

Sylwiad ar gwestiwn,—Pa sail sydd genym fod Duw heb ein gadael? ... John Hughes, Mehefin 14, 1804.

Sylwiadau ar weddi Crist yng nghardd Gethsemane.. ... Sylw ar lefain Crist ar y groes.

John Hughes, Athraw ysgol,

Yma daw Hymnau o waith A.G. Yna

Cofnodau Asostion Caernarfon ar ddwyfol osodiad Crist i'r swydd gyfryngol.[2] Cofnodau Cymdeithasfa Llanidloes ar ddelw Duw.

Yma daw Hymnu.

Ar ol yr emyn "Pan gymerodd pechod aflan" a dechreu'r bregeth ar Hab. I., 13, y mae daleneu wedi eu rhwygo ymaith. Dechreuer ddalen newydd ar ganol adysgrifiad o hen lythyrau.

Llythyrau at Ruth Evans?

Wyf finnau'n bresenol yn hollawl amddifad o

  1. Dechreua ysgrifenu Asosat . . . . ond croesa'r hen enw.
  2. Tybed mai yr adeg hon yr oedd Mr. Charles yn methu cofio'r gair Groeg am "lwyr brynnu." ac i John Hughes waeddi'n groch o ganol y dorf, έξγοράζω.