Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

honynt. Y mae'r gair hwnw sydd yn cael ei ddywedyd am Ephraim wedi dal er ys rai dyddiau ar fy meddwl." Ymdanodd penwyni ar hyd—ddo, ac nis gwybu efe. Y mae'r gair ymdaenu yn golygu adfeiliad graddol araf. Ped faem yn golygu perwyni naturiol yn ymdaenu, y mae'n dra graddol ac araf, etto yn myned yn y blaen. Wedi gweled ychydig flew gwynion mewn pen, ped faed yn ei edrych yn mhen y mis, ni ellid gwybod ei fod nemawr gwynach. Ond edrychwch e ben blwyddyn, dwy, tair, ceir gweled mai cynyddu y mae'r blew gwynion. Ac o ychydig i ychydig, aiff y pen yn wyn i gyd cyn pen hir.

Yn debyg i hyn y mae adfaeliad ysprydol. Nid myned yn ddidriniaeth hollawl ar unwaith, ond y wasgfa yn myned beth ysgafnach o bryd i bryd, a'r cysuron yn myned beth anamlach a gwanach, yn debyg i ddull Shecina yn ymadael or deml, nes mor dlawd a cholli'r teimlad o'r tlodi, "nis gwybu efe." Fel y mae dyn yn nesu ychydig at ei eulundod, y mae Duw yn nesu ychydig draw. O am iddi fyned yn waedd onest effro, —"Beth sydd i mi a wnelwyf ag eulunod mwyach?" ac hefyd " O Arglwydd, na ad ni."

Penwyni yn gyffredin sy'n arwydd o henaint. Dan y gwallt gwyn mae clywed yn drwm, gweled yn bwl, llefaru yn anghroew, yr archwaeth yn methu iawn flasu pethau, megis y dywedodd yr hen Barzilai wrth Dafydd.

Y mae'r pethau hyn yn dilyn heneiddio neu adfeilio mewn crefydd. Yn 1. Hwyrdrwm i glywed llais yr Arglwydd yn y gair a'r weinidoaeth ac yn ei ragluniaeth.' Yn 2. Pwl a thywyll