Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i weled drych y cyflwr a gogoniant trefn yr iechydwriaeth. Yn 3. Annghroew o ddywedyd am ddaioni Duw. Yn 4. Yr archwaeth neu'r stumog ysbrydol yn frethu iawn flasu gwleddoedd yr efengyl.

Gall dadl godi yn y meddwl mewn ryw amgylchiadau. "Yr wyf yn awr mewn amgylchiad profedigaethus; mae'n anawdd i fy meddwl beidio mynd grin lawer ar ol yr hyn sy'r awr yn perthyn imi; ond ped fae hyn wedi mynd heibio gallwn ddisgwyl gwell byd etto." Rheswm gwan. Ceisio cuddio yspryd gwrthgiliad a hugan o wag esgus. Nid oes dim angenrheidrwydd aros i amgylchiadau proffedigaethus fyned heibio cyn disgwyl gwell byd. Pe felly, byddai raid aros hyd angau, canys rhyw brofedigaethau neu gilydd sy'n debyg o'n dilyn hyd ein hoes. Ond y mae'n yn yr efengyl fodd i orfoleddu mewn gorthrymderau. "Haiarn a phres a fydd dan dy esgid, a megis dy ddyddiau y bydd dy nerth." Digon gwir rhaid cerdded ffyrdd geirwon, ond paham rhaid digaloni, gan fod esgidiau addas i'r ffordd? Digon gwir rhaid i weiniaid wynebu gelynion cryfion, dichellgar, a dengar; ond nid rhaid digaloni er hyny gan fod nerth cyfattebol i'w gael.

Gair arall, "Nac ofna, ond cred yn unig." Peth tra phechadurus yw ofni ac amau addewidion Duw a'i barodrwydd i'w cyflawni. "Wel," meddi, "ofni yr wyf nad ydynt yn perthyn imi." Ateb,—y maent yn perthyn i bawb ai credo. Wrth edrych ar y agwedd wael a gwrthgiliedig, peth rhyfedd genyf feddwl fod digon yn yr addewidion i'm bath i; digon i faddau'r holl ac i iachau'r holl lesgedd. Y mae'r yr efengyl