Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymgeledd yngwyneb yr afluneidddra mwyaf. O am ffydd, O am nerth i dori ymhlaen i ymaflyd yn barchus yn addewidion rad yr efengyl. Y mae yno borfeydd breision. O am gael ein harwain iddynt, a gorwedd yn dawel ynddynt. Y dianrhydedd mwyiaf ar Dduw a'i drefn yw bod yr nychu mewn yspryd deddfol ac anghrediniol. Duw trugarog yw ein Duw ni; nid dyn neu angel trugarog, ond Duw TRUGAROG. Y mae ei drugaredd, fel efe ei hunan, yn anfeidrol. Y modd i roddi'r anrhydedd mwyiaf i Dduw yw mentro ei drugaredd yn ol ei drefn yngwyneb yr olwg fwyiaf echrydus arnom ein hunain. Canys y mae ei gyfiawnder a'r holl briodolaethau yn ymddisgleirio yn y modd mwyiaf gogoneddus yn ei drefn yn trugarhau wrth bechaduriaid trwy Iesu Grist. Diolch am ddigon, yng wyneb pob gwael i bechadur heb ddim ; a deddf a chyfiawnder yn cael digon hefyd. Rhyfedd byth, ni raid i bechadur ddim byw yn mhell oddiwrth Dduw. "Wele fan yn fy ymyl lle cai sefyll ar y graig." Lle yn ymyl Duw i bechadur edrych ar ei ogoniant heb ei ladd ; ac nid hyny yn unig, ond Duw pur yn siriol wenu arno hefyd. Ie, a'r ddeddf a droseddodd yn gwenu arno, a'r pechadur yn gwenu arni hithau. Rhyfedd fyth, y ddeddf a'r troseddwr megis yn ysgwyd llaw, ac yn cusanu ei gilydd. Pa fodd y daeth hyn i ben ? Nid heb ollwng gwaed, ac nid gwaed teirw a geifr a lloi, ond Iesu Grist, ei fab Ef. Y mae i'r ddeddfa'r euog ddigon yn y person rhyfedd hwn—Golwg arno a wna i mi ganu, pan y byddo tryma 'mhwn. Neb ond Iesu, mae fe'n ddigon byth i mi.

Hyn oddiwrth dy gyd-bererin trwy anialwch ofidiau tua Jerusalem, y breswylfa lonydd.