Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eithr yn adfeilio'n fawr. Nid edrych pa beth a ddylasit neu a ddylit fod, ond y peth a fuost. Digon gwir na buost erioed yn agos at berffeithrwydd, etto ti a fuost y peth nad ydwyt yn bresenol."Wrth hyn gellir casglu'n amlwg nad yw dyn, pan y mae'n oeri ac yn adfeilio, ddim yn gwybod ei fod yn ac wedi colli cymaint ac y mae. Y mae'n ymgysuro ac yn ymdawelu am nad ydyw 'r Arglwydd wedi ei lwyr adael. Ond etto y mae'r Arglwydd ac yntau yn mhellach oddiwrth ei gilydd o ran cymundeb nag y mae efe'n meddwl o lawer Ymdaenodd penwyni ar Ephraim, ac nis gwybu efe. "Estroniaid a fwytasant ei gryfdwr, ac nis gwybu efe. A phan y mae'r Arglwydd yn wynebu ar yr adfaeledig i'w adfera, y mae'n galw arno ac yn ei ddwyn ystyried ac i adnabod mai felly y mae. Ac am hyny y cam cyntaf o adferiad yr adfaeledig ydyw ei ddwyn i adnab ei fod wedi colli mwy o dir nag oedd ef o'r blaen yn ei feddwl. "Wedi imi ddychwelyd mi edifarheais; wedi imi wybod mi a drewais fy morddwyd." A hyn y gelwir arno wneuthur yn yr olwg hono arno ei hun yw hyn,— Edifarha." Hyny yw,—"Cyfnewid dy feddwl a'th agwedd. Yn dy wrthgiliad yr oedd dy feddwl yn myned oddiwrthyf at eulunod. Ond bydded itti droi dy feddwl oddiwrthynt, a dychwelyd attaf fi, gyda gofid a galar am dy wrthgiliad a'th buteindra ar ol eulunod a'th oerfelgarwch tuag attaf fi. Er iti buteinio gyda chyfeillion lawer, etto dychwel attaf fi."

Gair arall sydd ar fy meddwi, Ezec. 37. 12,— "Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl." Y mae'r geiriau hyn yn addewid am ddychweliad