Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Israel o Babilon. Yr oedd Israel yn Babilon, yn eu golwg a'u barn eu hunain ac ereill, ac yn ol golygiad pob rheswm dynol, mor anobeithiol o ddyfod oddiyno i Jerusalem ac fel pe biasid yn dywedyd y byddiau meirw o'r beddau ddyfod i adeiladu a phreswylio Jerusalem, ac fel pe buasai'r Arglwydd yn dywedyd,—"Gadewch fod yn gymaint gorchwyl cael Israel o Babilon a chael y meirw o'u beddau, etto nid yw hyny yn orchwyl gormod i mi. Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl." Pa fyddo dyn a fo wedi adfaelio yn ei enaid yn cael ei oleu i weled ei afluneidddra, y mae'n neillduol dueddol i ddigaloni ac i farnu mai gormod peth iddo ef ddyfod byth fel y bu. Ond gwybydded y cyfryw, er mai gormod iddo ef o'i ran ei hun, etto nid gormod i Dduw. "Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl. Y mae hyn yn ddigon yngwyneb pob rhesymau pawb am eu digalondid. Agorwr y beddau sydd wedi addo, ac Efe a'i gwn. Barned ei adferiad yn gymaint peth ac a fyno, ond peidied neb, gocheled pawb ei farnu'n ormod i Dduw. Paham? Am mai Duw ydyw. Jehovah yw efe, tawed pob cnawd. Diolch am ei fod yr hyn yw.

Y mae anghredu galla ac ewyllys Duw yn bechod anfesurol ac anrhaethol. Y mae yn y 78 Salm gofrestr helaeth o bechodau meibion Israel, ond yn ben ar y cwbl, yn 41 ad,—"A gosodasant derfyn i Sanct yr Israel." Mae'r geiriau'n cyfeirio i'r 13 a'r 14 6 Numeri, lle mae hanes am 10 o'r deuddeg yspiwyr yn dwyn cam dystiolaeth ac y wlad, a'r bobl yn digaloni yngwyneb eu tystiolaeth. Ac wrth sylwi ar y geiriau yma y