Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddysgu corph o egwyddorion iachus i'w ysgolheigion. Yn 5. Peidio a thoi rheolau rhy gaeth mewn perthynas ddull yr ysgolion. Yn 6. Parau heb roi i fyny yr ymdrech am gael hen bobl i ddysgu darllain, fod yn cyffredin yn rhai manau fod yr wyrion yn dysgu taid a nain. Yn 7. Esiamplau am hen bobl yn Bristol yn dysgu. Un hen wraig 85 oed yn dysgu ac darllain penod ar goedd er anogaeth i ereill. Un arall 98 oed. Hefyd meddwyn afreolus yn dysgu darllain ac yn dyfod yn ddyn gweddus. Fod y rhai enwocaf yn mhlith y gweinidogion a wrthodwyd am anghydffurfio ag E Lr. gynt yr rhai mawr egwyddori. Yn & Yn Ysgolion Sabothol yr Ywerddon fod yr athrawon yn gwasgu pethau at yr ysgolheigion drwy bregethu llawer iddynt yn bersonol. Eu bod yn fanol am ddysgu moesau da iddynt nes y mae ol y plant ar y teyluoedd a'r tai y maent yn byw ynddynt 9 y byddai yn fuddiol cadw ysgol y noswaith

5. Y dylid gochelyd meithder mewn darllain, canu, a gweddio mewn cyfarfodydd mawrion.

Drannoeth bu ymdrin â'r ail orchymyn, a sylwodd rhywun, ymysg pethau eraill —

nad yw gwneyd tonau ar lais, lluniau ar gyrph wrth ddarllain, canu, a gweddio ond rhyw achos i euln addoliaeth.


Yn nesaf daw "Llyfr Caniad Solomon, wedi ei gyfansoddi ar gân ar amryw o fesurau, gan John Hughes, Pont Robert, swydd Drefaldwyn.[1] Yna Hymnau A. G.,"O am dreiddio" &c.

  1. Cyhoeddwyd hwn yn 1821