Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Psalm 1.

Dedwydd y gwr gwir ffyddlon
Ni rodia ynghyngor annuwiolion;
Ni saif yn ffordd y pechaduriaid.
Nid eistedd gyda y gwatwariaid.

Ond ei ewyllys a gartrefa
Yn sanctaidd gyfraith y Jehofa,
Ac ynddi mae ei fyfyr nefol,
Ddydd a nos, yn wir arosol.

Fe fydd fel pren planedig tyfol
Ar lan afonydd dyfroedd bywiol;
Rhydd ffrwyth mewn pryd, ei ddail ni wywa,
'N oll a wnel efe a lwydda.

Nid felly bydd y dyn annuwiol,
Ond fel y manus gwael aflesol,
Heb bwys na gwerth, hollol ddifaith,
Nerth y gwynt a'i chwal ef ymaith.[1]

Oherwydd hyny'r anhuwiolion,
Ni safant yn y farn fawr gyfion;
Na phechaduriaid ynghyn'lleidfa
Y rhai cyfiawn y dydd ola.

Jehofa edwyn ffordd cyfiawnion,
Fe gym'radwya lwybrau union;
Ond ffordd y didduw ddynion anwir
Diau fyth y llwyr ddifethir.

  1. Newidiwyd fel hyn,

    Ef a fydd fel pren planedig,
    Wrth afonydd tra dwfredig,
    Yn ei bryd o hyd y ffrwytha.
    A'i ir ddeilen byth ni wywa;
    Pa beth bynnag oll a wnelo
    E fydd achos lwyddiant iddo,
    Ni bydd yr annuwiol felly.
    Ond fel us i'r gwynt e chwalu.