Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd yn myned ei hunan dan wylo, trwy y tywyllwch ar hyd llwybrau tra anwastad a geirwon, tra yr oedd ei brodyr wedi myned yr un pryd i gyfarfod crefyddol o'r enw i Bont Robert. Colli cwmni ei brodyr, ynghydag eiddigedd am eu bod wedi myned i foddion y Methodistiaid, ynghyda thywyllwch a gerwindeb y ffordd, a barodd iddi fyned dan wylo. Erbyn iddi gyrhaeddyd i'r dreflan, nid oedd yno neb wedi codi; bu am ryw yspaid yno yn yr oerfel a'r tywyllwch, yn aros am ddechreu y cyfarfod. Yn mhen ychydig amser, dechreuodd y cyfarfod; ac wrth ddyfod o'r eglwys, nesaodd yr offeiriad ati mewn modd tra serchog a siriol, ac a ymaflodd yn ei llaw, gan ddywedyd, "Ann, a ydyw gwythenau gwagedd wedi ymadael yn llwyr o'ch dwylaw?" ac yna gwahoddodd hi i'w dy i gael boreufwyd, canys yr oedd hi a'i theulu yn dra pharchus yn ngolwg yr offeiriad; ond ei ymddyadanion â hi yn ei dy oeddynt nid yn unig yn anghrefyddol, ond yn rhy anweddaidd i'w hadrodd. Yn ganlynol i hyn yma, daeth i'r un penderfyniad ag y mae Esgob Beveridge yn ei "Feddyliau ar Grefydd" yn adrodd, wedi sylwi ar amryw fath o grefyddau, sef "Y mae yn rhaid i mi fyned i rywle arall i ymofyn am grefydd." Mewn canlyniad i hyn yma, dymunodd ar ei thad am gael myned i Lanfyllin i ddysgu gwnio; ei hamcan oedd cael myned tan weinidogaeth yr Annibynwyr; ond cyn i'r bwriad uchod gael ei gyflawni, daeth i Bont Robert i wrandaw ar ryw bregethwr (tybir mai Mr. Ishmael Jones oedd yn pregethu) ac wrth wrandaw y bregeth hono gorchfygwyd ei rhagfarn at y Methodistiaid; ac nid hyny yn unig a fu effaith y