Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bregeth hon arni, ond hefyd bu yn foddion dwfnhâd ystyriaeth ei meddwl am ei chyflwr; profodd argyhoeddiadau grymus o'i phechadurusrwydd a cholledigaeth ei chyflwr. Yr oedd awdurdod ac ysbrydolrwydd y ddeddf yn ymaflyd mor rymus yn ei meddwl, hyd oni bu yn ymdreigio amryw weithiau ar hyd y ffordd wrth fyned adref o'r Bont o wrandaw y pregethau, gan ddychrynfêydd a thrallod ei meddwl.

Yn lled fuan ar ol hyny, daeth i gynnyg ei hun, a chafodd dderbyniad rhwydd fel aelod o'r gynnulleidfa eglwysig yn Mhont Robert. Yr oedd agwedd hynod o ddeffrous arni yn ei hymddangosiad cyntaf yn y gymdeithas neillduol hon—pa amser oedd y pryd hwn nis gellir yn bresennol wybod yn fanylaidd a sicr, y mae yn lled debyg fod hyn yn nghorff y flwyddyn 1797 yr oedd diwygiad grymus wedi dechreu yn Mhont Robert er ys dwy flynedd, ond heb oeri nemawr hyd y pryd hwnw. Pa hyd y bu Ann dan rym yr argyhoeddiad cyn cael golwg ar y Gwaredwr, a phrofiad o dangnefedd yr efengyl, nis gellir cofio yn bresennol, ond y mae yn dra thebygol nad yn hir; ond hi a gafodd y fath amlygiadau ysbrydol o ogoniant person Crist, gwerth ei aberth, grym ei eiriolaeth, anchwiliadwy olud ei ras, a chyflawnder yr iachawdwriaeth gogyfer a'r penaf o bechaduriaid, ag a barai iddi dori allan mewn gorfoledd cyhoeddus ar brydiau dros yspaid ei hoes grefyddol.

Yn y gwanwyn, yn y flwyddyn 1803, bu farw Mr. John Thomas, ei thad, mewn yspaid byr, gan rym colic yn ei ymysgaroedd, yr hyn a gafodd effaith ddwys ar feddwl Ann, hyd oni wanychodd