Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cariad Ruth at ei gŵr, ar hyd eu bywyd priodasol hir, yn ymylu ar addoliad, wedi ei farw eisteddai ger ei fedd ganol nos, i'w glywed yn siarad â hi Yn y blynyddoedd 1800-1805, yr oedd meddwl Ann Griffiths a meddwl John Hughes ar yr un pethau. Yr un pynciau sydd yng nghofnodion ac emynnau John Hughes ag sydd yn llythyrau ac emynnau Ann Griffiths. Ond y prif syniad ym meddwl John Hughes yw plygu yr ewyllys i Dduw a'i gredu; nodwedd meddwl Ann Griffiths yw cariad angerddol at y Gwaredwr. Nerth Duw wêl John Hughes, a'r ddyledswydd i gredu yn ei ragluniaeth a'i iachawdwriaeth; cariad y Gwaredwr wêl Ann Griffiths, yn rhagori ar ddeng mil. At Ffydd yr arwain meddwl John Hughes ni, at Gariad yr arwain meddwl Ann Griffiths ni. Yn nhanbeidrwydd y cariad hwn cwyd i uwch barddoniaeth nag oedd o fewn cyrraedd John Hughes pan yn meistroli bannau duwinyddiaeth am Berson Crist. Eto canodd yntau lawer emyn grymus iawn.

Cyhoeddodd naw neu ddeg o lyfrau,—bron oll yn waith neu adgofion ei ieuenctyd. Hymnau, Caniad Solomon, pregethau, a chofiantau yw ei waith llenyddol. Er nad yw'r cofiantau'n orfanwl, y mae bywyd ymhob un ohonynt,—wyneby, cymeriad, enaid a gwaith. Owen Jones, Evan Griffiths, Ann Griffiths,—maent oll yn fyw yn y darlun. Prin y gellir dirnad dylanwad oes hir a llafurus John Hughes ar Gymru. Ceir cipolwg ar ei lafur a'i ddioddef yn erthyglau dyddorol y Parch. Edward Griffiths yn y Traethodydd, 1890 ac 1891; ac ar ei fywyd bob dydd yn adgofion difyr Mr. John Morgan yn y Drysorfa, 1898 ac 1899.

Owen M. EDWARDS.