Tudalen:Gwaith-John-Hughes-CyK.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

JOHN HUGHES.

Fel hyn y dechreua ysgriflyfr John Hughes.

CYWYDD CYFOCHROG AR WAITH Y

PRYNEDIGAETH.

Mwy gwaith na daiar faith fyd,
Mwy rhyfedd na môr hefyd;
Mil mwy, caf, na ffurfafen,
Myrdd mwy na yn uwchder nen
Môr odiaeth prynedigaeth dyn,
Mawr-waith gwir faban morwyn.
Mydraf ei glod, pe'i medrwa;
Mael o hyd yw moli hwn;
Myfyr a synu mwy-fwy,
Mynd yn ddall, deall nid wy;
Myrdd un wedd sy'n rhyfeddu
Maith fawredd, ddilygredd lu;
Mawr yw hwn, O mor hynod,
Mae fe'n haeddu clymu clod;
Mae fe'n uchel Dduw Celi,
Mae'n ddyn pur o'n natur ni;
Myned tan y ddyled ddu,
Mewn dolur cyflawn dalu;
Mwyn ddyndod ef ddyoddefodd
Mawr lid Duw Tad, mad y modd
(Mi hwn na chaf waith hafal
Mewn bod) a Duwdod yn dal;
Mal hyn, syn yw gan bob sant,
Malwyd dyndod, O moliant;