Daeth teimlad dyngarol fel tân nef ei hun
I rwymo brenhines a glowr yn un,
Mae gorsedd a thlodi'n diflannu draw, draw,
I rinwedd a chariad gael cydysgwyd llaw.
DYCHYMYG HEDA
Dychymyg heda uwch y bedd
Lle claddwyd priod anwyl,
Ac yno mynn gael gwneud ei sedd
I ddisgwyl, ac i ddisgwyl;
A gwaeddi'i henw a fynn ef
Gan ddisgwyl iddi ateb,
Ond ni adseinia dynol lef
Yn awyr tragwyddoldeb.
Lle gwraig sy'n wag trwy'r oll o'r tŷ,
A gwraig heb ail yn unman;
Lle mam sy'n wag—"y man lle bu"
Adseinia'r gwagle'n mhobman;
Ac uwch ei llun y serch a ddaw
I sylweddoli'r cyfryw;
Ond adlais rheswm dd'wed o draw,
"Y llun yn unig ydyw!"
Pwy geidw'r plant rhag derbyn cam,—
Pwy wylia dros y rhei'ny?
I'r tair sy'n galw am eu mam—
Gair gwag am byth yw "mami!"
Ond hyn sy'n gysur, onid yw,
Tra'n wylo uwch y marw,
Fod Tad amddifaid eto'n fyw—
MAE EF YN LLOND EI ENW!