Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y FRENHINES A'R GLOWR

(Er cof am waredigaeth y Ty Newydd. Cyfansoddwyd i Mr. D. Emlyn Evans).

Y FRENHINES

Brysiwch, fellt, ar hyd y gwifrau,
Saethwch dros y bryn a'r ddôl,
Treiddiwch lawr i'r erch ddyfnderau,
Dewch a'r newydd i ni'n ol,
A oes gobaith i'r gwroniaid
Gipio yspail angau du,
A rhoi goleu i'r trueiniaid
O glaer lusern gobaith cu.

Y GLOWR

Ofnadwy fu'r pryder,—y dychryn oedd fawr,
Ar drothwy bytholfyd yn disgwyl yr awr,
Ond pan ddaeth curiadau'n cydweithwyr i'n clyw,
Deallem fod tân cydymdeimlad yn fyw;
A bron ein brenhines o'i gorsedd wen, fawr,
Yn toddi o serch dros y glowyr yn awr.

Y FRENHINES

Gwisga'r eurdlos ar dy ddwyfron,
Gyda llawryf werdd y gwron
Cana'r ddaear oll dy fawl.

Y GLOWR

Cymer dithau, Buddug dirion,
Ddiolchgarwch glowr ffyddlon,
I wladgarwch pura'i galon
Y mae gennyt gyflawn hawl.