Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

WYLWN! WYLWN!

(Requiem,—Y gerddoriaeth gan Mr. J. Parry, Mus. Bac)

Wylwn, wylwn! cwympa'r cedyrn,
Cwympa cedyrn Seion wiw,
Wylwn, wylwn! dianc adref
Y mae cewri Mynydd Duw;
Cydalarwn dan y stormydd,
Crogwn ein telynau'n syn,—
Crogwn hefyd ein llawenydd
Ar hen helyg prudd y glyn:
Y cadarn a syrthiodd! Mae bwlch ar y mur,
A Seion ar suddo mewn tristwch a chur.

Ond udgorn Duw a rwyga feddau'r llawr,
A syrth y sêr yn deilchion ar un awr;—
Dydd dial Duw!—dydd gwae i fyrddiwn fydd,
A dydd gollyngdod teulu'r Nef yn rhydd.

Clywaf lais o'r Ne'n llefaru,
Treiddia trwy hen niwl y glyn,
"Rhai sy'n meirw yn yr Iesu
Gwyn eu byd y meirw hyn;"
Diolch am yr enfys nefol
Sydd fel bwa am y bedd,
Dyma yr addewid ddwyfol
Gaed o wlad yr hedd.

Moliannwn,—Gorfoleddwn,—
Cawn gwrdd i gyd-ganu,—cyd-foli,—cyd-fyw,
Mae allwedd marwolaeth wrth wregys ein Duw.