Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MAM

Eisteddai geneth lwyd ei gwedd
I ddweyd ei chwyn a'i cham,
Ar noson oer yn ymyl bedd,
A hwnnw'n fedd ei mam;
Hi syllai fyny tua'r nen,
A'i llygaid prudd yn llyn,
Ac yng ngoleuni'r lleuad wen,
Hi wylai gân fel hyn,—
"Mam! mam, O fy mam!
'Does neb yn y byd
Mor anwyl a mam.

"Ai llygad mam yw'r seren dlôs
Sydd yn y nefoedd fry,
Yn wincio arnaf yn y nos
I esgyn ati hi?
Ai llais fy mam yw'r awel iach
Sy'n hedeg dros y tir,
Yn dwedyd wrth ei geneth fach,—
"Cei ddod i'r nef cyn hir?"
Mam! mam, O fy mam!
Pa bryd caf fi fynd
I fynwes fy mam?"