Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FFUGENWAU

Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad,
Rhai'n berygl ryfeddol a hir eu parhad;
Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro,
A chlefyd excursions a chanu Soh, Doh;
Ond clefyd ffugenwau yw'r gwaethaf a gaed,
Mae'n drymach na chlefyd y genau a'r traed.

Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn,
Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn,
A llewod ac arthod, eryrod a brain,
Ac ambell i fwnci ynghanol y rhain.

Os digwydd i hogyn wneud pennill o gân,
A'i anfon i'r print ac oddiyno i'r tân,
Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i'r nen,
A'i fam yn ochneidio dan ysgwyd ei phen;
Rhaid ei gipio i'r orsedd pe bai yn ei glocs,
A'i blastro âg enw fel label ar focs.
Mae Eos y Weirglodd, &c.

Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o dôn,
Mae Pencerdd Sir Benfro a Phencerdd Sir Fôn,
Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir,
Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir;
'Rwy'n cynnyg cael urddo hen geiliog fy nhad,
A'i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad.
Mae Eos y Weirglodd, &c.

Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae sôn,
Dweyd enw a ffugenw a'r surname yn y bôn,