Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion Rhys,
A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys,
A chyda'r rhai yna daw Morris—
Llanfairmathafarn eithaf
Rhosllanerchrugog,
Llanrhaiadr Mochnant,
Hugh,
A William Carey Williams a Dafydd—
Llanfairpwllgwyngyll gogerychwyrndrobwll
Dysilio gogo goch
Pugh.

Ebrill 29, '76.

FY NGHALON FACH

Fy nghalon fach, paham mae'r wawr
I'w gweld fel hwyr y dydd,
A'r hedydd llon uwchben y llawr,
A'i gân mewn sain mor brudd?
Ateba fy chwyddedig fron,—
Mae rhywun ffwrdd tudraw i'r donn.

Fy nghalon lawn, mae'r rhod yn troi,
A'r rhew a'r eira'n dod,
Er hyn mae gŵg y gaea'n ffoi
Er oered yw yr ôd;
Mae'r gwynt yn sibrwd dros y ddôl
Fod rhywun hoff yn dod yn ol.