Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TYSTEBAU

Fu 'rioed y fath oes yn yr oesau,
A'r oes 'rydym ynddi yn byw,
Fe'i gelwir yn oes y peiriannau,
Ac oes rhoddi'r mellt dan y sgriw;
Mae'n oes i roi tanllyd gerbydau
I chwiban dan fynydd a bryn,
'Rwy'n meddwl mai oes y tystebau
Y dylid ei galw er hyn.

Os bydd dyn yn myned o'i ardal,
Rhaid rhoi iddo dysteb lled fawr,
Neu'n aros,—rhaid gwneud un llawn cystal
I rwymo ei draed wrth y llawr;
Rhoir tysteb am waith ac am ddiogi,
Rhoir tysteb i'r du ac i'r gwyn,
Ceir tysteb am gysgu'n y gwely,
Os pery tystebau fel hyn.

Gwneud tysteb o nôd genedlaethol
A wneir i bob crwtyn yn awr,
Argreffir colofnau i'w ganmol,
A'i godi'n anferthol o fawr;
Mae'r gair cenedlaethol yn barod,—
A helpo y genedl, a'r gair,
Er mwyn cael cyfodi corachod
A llenwi eu llogell âg aur.

Mae mul yn hen felin Llanodol,
'Rwy'n cynnyg cael tysteb i hwn,
A honno'n un wir genedlaethol,
Am gario ar ei gefn lawer pwn;