Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Paham na chai dysteb ragorol
I'w rwystro am byth gadw nâd?
Mae'r mul yn hen ful cenedlaethol,
A haedda ei weld gan y wlad.

Mae'n cario yr ŷd mor ddigyffro
Dros fynydd, a dyffryn, a dôl,
Ac wedyn caiff eisin i'w ginio
I aros i'r blawd fynd yn ol;
Rhag c'wilydd i genedl y Cymry
Am fod eu syniadau mor gul,
Fe ddylid gwneud ymdrech o ddifri
I gychwyn y dysteb i'r mul.

Mae'i glustiau'n mynd lawr dros ei lygaid,
O! clywch ef yn codi ei gri,
Mae'n g'wilydd fod tad y ffyddloniaid
Heb dysteb pryd hyn ddyliwn i;
Oferedd im' fyddai ei ganmol,
Mae gweithio i'w wlad bron a'i ladd,
Rhowch dysteb i'r mul cenedlaethol,—
Nid ef fydd y cyntaf a'i ca'dd.

Ebrill 29, '76.