Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GEIRIAU LLANW

Mae llawer o hen eiriau llanw
I'w cael ym mhob Llan a phob lle,
Yn debyg i bethma a hwnnw,
Fel tau ac fel tase, yn te,
Yn te meddai'r dyn sydd yn holi,
Fel tase, yn te, meddai'r llall,
Yn ddigon a gwneud dyn i daeru
'Dyw hanner y byd ddim yn gall.
Fel tau, fel tase, yn te,
Ofnatsen gynddeirus, yn te,
Peth hwnnw yw gweled rhai'n bethma
Fel tase, fel tau, yn te.

Ym Môn chwi gewch glywed miawn mynyd,
A llawer o siarad a stwr,
A phawb fel pe tae yn dywedyd
Cymraeg o'r "sort oreu reit siwr."
Pan ddeuwch chwi drosodd i Arfon,
Cewch "firi di-wedd" ym mhob lle,
A'r enw roir yno ar feddwon
Yw "chwil ulw beipan" yn te.
Fel tau, &c.

Os ewch tua Meirion a morol,
Cewch giasag i fynd ar ei thraws,
A ciariad, a ciarag, a cianol,
A ciamu, a ciamfa, a ciaws;
Ac yno fel pobman trwy'r gogledd,
Mae'r pla wedi taenu'n mhob lle,
Yn te ydyw'r dechreu a'r diwedd,
Yn te ydyw'r bethma yn te.
Fel tau, &c.