Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os ewch chwi i lawr tua'r Deheu,
'Run siwt mae hi obry yn awr,
Mae pawb gan ta pun ar ei oreu
Yn dishgwl yn ffamws i lawr;
Mae pawb yno'n grwt neu yn grotan,
Yn whleia â'u giddil o hyd,
Wy'n sposo taw dyna y bachan
Sy'n cwnni yn awr yn y byd.
Fel tau, &c.
Chwef., '73.


GWRANDO'N RASOL AR EIN CRI

(EMYN)

Groesaw'n awr! I Iesu'n brawd,
Ar liniau Mair mewn natur dyn,
Ac ar y groes cymerai'n gwawd
A'n beiau trymion arno'i hun;
Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
Gwrando'n rasol ar ein cri.

Dros bechadur, rhedai'n lli
Waed a dwfr, o'i anwyl fron.
Dyma'r ffynnon! Boed i ni
Olchi'n beiau i ffwrdd yn hon;
Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
Gwrando'n rasol ar ein cri.