Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Benyr grogent ar hen greigiau,
A neuaddoedd y mynyddau
Ail ddywedent y bloeddiadau
Dros ein hanwyl wlad;
Rhuthrent tua'r dyffryn,
Gledd yng nghledd â'r gelyn,
Gwŷr mewn gwaedd oedd gylch eu traed
Ynghanol braw a dychryn,
Nes y

Gelyn giliai ar Nos Galan,
Fa la la, &c.,
Ac aeth pawb i'w fwth ei hunan,
Fa la la, &c.,
Tynnu diliau tannau'r delyn,
Fa la la, &c.,
Wnaent i'w gilydd heb un gelyn,
Fa la la, &c.
Chwef. 18, '72.


DYCHWELIAD Y MORWR

Trwy'r tonnau y llong ddaw yn nes i'r lan—
Dacw y foel a dacw y fan;
'Rwy'n gweld y pant a'r gornant gu,
'Rwy'n gweld y coed, 'rwy'n gweld y tŷ;
Mae adlais anwyliaid yn dod i'r llong,
A sŵn hen gloch y llan, ding dong.