Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DYSGWCH DDWEYD "NA"

Fe ddysgir dweyd llawer o eiriau
Na ddylid dim dysgu eu dweyd,
Ac hefyd anghofir rhai geiriau
Y dylid eu dysgu a'u gwneud;
Beth bynnag a ddysgwch wrth ddysgu yr iaith,
Beth bynnag a gofiwch drwy droion y daith,
Faint bynnag o eiriau a ddysgwch yn dda,
Gofalwch bob amser am ddysgu dweyd "Na;"
Dysgwch ddweyd "Na,"
'Does dim sydd mor ddiogel a dysgu dweyd "Na."

Os gwelwch chwi gwmni afradlon
Yn mynd i oferedd yn ffôl,
Gan wawdio rhinweddau'u cymdogion,
A gadael pob moesau ar ol;
Mae trwst y rhai yma wrth gadw eu rhoch
Mor wâg a diafael ag adsain y gloch,
'Ran hynny, mae pennau y clychau a rhain
Yn wag fel eu gilydd, 'blaw tafod bach main;
Ac os daw y giwaid hon rywdro i geisio tynnu rhai
o honoch i ddinistr,
Dysgwch ddweyd "Na," &c.

Os gwelwch chwi eneth brydweddol
Yn gwisgo yn stylish dros ben,
Cyn son am y pwnc priodasol,
Rhowch brawf ar gynhwysiad ei phen,
Os ffeindiwch chwi allan wrth chwilio'r fath yw,
Ei bod hi fel clomen o ran dull o fyw,