Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'i llygaid, a'i gwddw, a'i haden, a'i phlu',
Yn loewach o lawer na dim sy'n ei thŷ,
Ac os bydd rhywun o honoch am roi cynnyg ar Miss,
Dysgwch ddweyd "Na," &c.

Mae gennyf un gair i'r genethod
Wrth ddechreu eu taith drwy y byd,
Mae llanciau ar brydiau i'w canfod
Heb fod yn lân galon i gyd;
Mae'n bosibl cael gŵr fydd a'i galon yn graig,
Mae'n bosibl cael gŵr fydd yn gâs wrth ei wraig,
Heb gym'ryd yn bwyllus, mae'n bosibl i Gwen
Gael gŵr heb na chariad, na phoced, na phen,
A'r cyngor sydd gennyf i'r ladies (hynny yw, os na
fyddant, dyweder, oddiar 35 oed)
,
Dysgwch ddweyd "Na," &c.

GEIRIAU CYDGAN GYSEGREDIG

Doed holl drigolion daear lawr
I ateb llef y nef yn awr,
Nes byddo tân eu moliant hwy
Yn eirias mwy i'r Iesu mawr.

Dyma'r un oddefodd bwysau
Holl bechodau dynol ryw,
Ac o'i fodd oddefodd loesau
Miniog gledd dialedd Duw;
Ac a ddrylliodd deyrnas angau
Pan y daeth o'i fedd yn fyw.