Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CHWEDL Y TORRWR BEDDAU

Roedd y lleuad yn ieuanc, a'r flwyddyn yn hen,
A natur gan oerfel yn colli ei gwên,
Fe rewai'r dwfr fel gweren oer,
Tra prudd edrychai yr ieuanc loer
Cydrhwng canghennau'r coed;
Yng ngolau'r nos, mewn mynwent laith,
'Roedd torrwr beddau wrth ei waith;
Un hen oedd ef, ac wrth ei ffon,
A'i esgyrn oeddynt cyn syched bron
A'r esgyrn dan ei droed.

Ymgodai'r gwynt,—a'i anadl ef
A fferrai lwynau natur gref,
A'r torrwr beddau yn ddifraw,
Wrth bwyso'n bruddaidd ar ei raw,
Besychai am ryw hyd,
Ryw "beswch mynwent" dwfn a blin;
'Roedd ei groen a'i gob yn rhy deneu i'r him,
Ac yna fe dynnodd ryw botel gron
O'i logell,—ond potel wag oedd hon;
A churai 'i ddaint ynghyd.

Ond llawen oedd pawb yn yr "Eryr Mawr,"
Y dafarn hyna'n y dref yn awr,
Fe chwyrnai'r tegell ar y tân,
A chwyrnai'r gath ar yr aelwyd lân
Tra'n gorwedd ar gefn y ci.
'Roedd mab yr yswain yno mor hyf,
Yr hwn oedd yn llencyn gwridog, cryf,
A gŵr Tyddyn Uchaf, ynghyd a'r aer,
A'r gôf, a'r teiliwr, a'r crydd, a'r saer,
Cyn dewed a dau o'r rhai tewa'n y wlad
Yn siarad â dau neu dri.