Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y torrwr beddau edrychai'n glau,
A gwelai y goleu, a'r drws heb ei gau,
Ac yntau'n hen ŵr go lon yn ei ddydd
Yn hoffi pibell, ae yfed fel hydd,
'Doedd ryfedd fod arno fo flŷs;—
"Waeth i mi roi fyny," ebe'r sexton yn syn,—
"Peth caled yw tirio trwy esgyrn fel hyn,
A ch'letach fyth pan deimlwch chwi'ch hun
Yn taro ynghyd âg asgwrn pen dyn!
Felly 'rwy am fynd i'r ‘Eryr Mawr,'
Mae'r gwynt yn ddigon a tharo dyn lawr."
Ac i mewn ag ef ar frys.

Fe wenai pawb wrth ei weled e'
Y torrwr beddau yn cymeryd ei le
O dan y fantell simnai fawr,
(A chwarddai y tân dan ruo'n awr),
Oblegid 'roedd pawb yn ei garu ef,
O fab yr yswain i'r tlota'n y dref.

"Wel, dowch a stori," ebe gŵr y tŷ,
"Rhyw chwedl ddifyr am bethau a fu."
'Roedd pawb yn gwybod mai ef oedd tad
Adroddwr chwedlau yr holl wlad.
Fe wyddai am bob yspryd bron
Fu'n tramwy hyd y ddaear hon;
Fe fedrai ddychryn calon wan,
A'i gwneud yn ysgafn yn y fan;
Fe allai gau ac agor clwy',
A medrai ddynwared pawb yn y plwy'.

"Mae'r torrwr beddau mewn syched braidd,
Rhowch iddo gornied o gwrw brag haidd,"
Ebe gŵr y tŷ yn awr;
"Mae stori sych yn ddigon o bla
Os na fydd llymaid o ddiod dda
Yn helpu y stori lawr."