Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe wylai Mari'n hidl fan hon,
Agorodd holl argaeau'i bron,
A d'wedai,—"'Nawr, fy nghyfaill pur,
Cyn darfod adrodd chwedl fy nghur,
A wnewch chwi addaw'r funud hon
I gloi y chwedl yn eich bron
O wydd pob dyn trwy'r byd;
Er imi dynnu arnaf gam,
Ac er im' ddigio mynwes mam,
Fy mam oedd hi o hyd.

"Aeth heibio flwyddyn gron, fy ffrynd,
A holl dafodau'r lle yn mynd
Yn gyflym gyda'm hanes prudd,
A mam rhy falch o ddydd i ddydd
I geisio clirio'i geneth wen,
A cheisiai gadw i fyny'i phen
Drwy fynd i'r eglwys yn ei du,
Fel pe buasai'i geneth gu
Yn gorwedd yn ei thawel fedd,
Lle gorffwys pawb mewn hûn a hedd."

Un noson oer, mewn gaeaf du,
Eisteddwn ar fy aelwyd gu,
Gan wylio'r marwor mawn a choed
Yn syrthio'n lludw wrth fy nhroed,
Yn ddrych o ddynion llon eu gwedd
Yn goleu i ddiffodd yn y bedd.
Fy meddwl grwydrai'n rhydd a ffol.
Pan yn ddisymwth o'm tu ol
'Roedd sŵn cerddediad!—pan y trois,
Mi glywn fy enw mewn acen gyffrous,
A phwy oedd yno ger fy mron
Ond Mari a'i baban ar ei bron!