Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'r fath onestrwydd yn ei phryd
Nes teimlwn i'm teimladau i gyd
Yn toddi'n llwyr; a gwenau hon
A wnaent i minnau wenu'n llon,
A gweld ei dagrau'n treiglo'n lli
A sugnent ddagrau 'nghalon i.

Ond pan yn tynnu tua phen
Ei chwedl brudd, fy ngeneth wen
A ddwedai, gyda'i llygad du
Yn saethu teimlad ar bob tu,—
"O fel yr ofnwn ŵg fy mam,
Yr hon a'm gwyliodd ar bob cam:
A balchder gyda thanllyd serch
A'i gwnaeth yn ffol uwch ben ei merch.


"Priodi a wnaethum heb wybod i mam—
'Roedd hynny, 'rwy'n addef, yn bechod a cham;
Ond beth oedd i'w wneud, a pheth ddaethai i'm rhan,
Pan oedd cariad mor gryf, a minnau mor wan?
Ni allwn gyfaddef i mam er y byd,
Ond wedi priodi, ni aethom ynghyd
I ofyn maddeuant ei mynwes dinam,
Ond serch wedi'i gloi erbyn hyn oedd gan mam.


"Hi allodd gau y drws a'i gloi
Ar ol ei merch, a medrodd droi
Clust fyddar at fy ymbil taer,
A dweyd yng ngolen'r lleuad glaer,—
‘Gan iti fynnu'th ffordd bob cam,
A chroesi 'wyllys gref dy fam,
Dôs gydag ef, yr hoeden ffôl,
A phaid a dychwel byth yn ol.'"