Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar fron tosturi,—a'r baban bach
A gysgai hûn ddiniwaid iach,
Ar hyd y nos flinderus faith
Ar fron mor oer a'r garreg laith.

Aeth ef a'r ddau yn ol i'w dŷ,
A'i wraig drugarog, serchus, gu,
A'u hymgeleddai gyda serch
A chydymdeimlad calon merch,
Gwreichionen olaf bywyd brau
Gyneuai'n ol dan law y ddau.

Deffroai Mari gyda hyn
I gael ei hun mewn gwely gwyn,
A gwên trugaredd uwch ei phen
Yn edrych ar ei dwyrudd wen.

Nid oedd gan ŵr a gwraig y tŷ
(Lle dodwyd Mari),—blentyn cu,
A gall mai dyna'r rheswm pam
Y carai'r rheiny gael y fam,
Er mwyn cael gwylio'i baban bach
Yn tyfu'n llencyn gwridog, iach.

Dechreuai'r bychan chwareu'n rhydd,
A rhosyn iechyd ar ei rudd,
A gweithiai'r fam â chalon rwydd
Wrth weld ei gobaith yn ei gwydd
Yn tyfu'n hogyn gwyneb crwn,
A'i serch ymglymai o gylch hwn.

* * * * *


Awn heibio i flynyddau maith,—
Fe dyfai'r llanc,—gwnai'r fam y gwaith,
Ac ni fu'r blwyddau meithion hyn
Heb ambell smotyn hafaidd, gwyn.