Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edrycha'i llanc yn hoew a chryf,
A'i natur fywiog, hoenus, hŷf,
A godai awydd yn ei fron
I fynd yn forwr nwyfus, llon;
Dychmygai nad oedd unrhyw ddôr
Yn agor iddo ond y môr.

Fe deimlai'i fam, a theimlai'n flin,
Ond ni ddaeth gair dros drothwy'i min,
A'r bore ddaeth i'r llanc dinam
I rwygo'i hun oddiwrth ei fam.

II

Y storm a aeth heibio, a'r dwylaw wnaent gwrdd
I gyfarch eu gilydd yn llon ar y bwrdd;
"Mae'r cyfan yn fyw," ebe'r Capten yn llon,
A diolch a gweddi yn llanw ei fron:
"Na!—arhoswch; pa le y mae William ddinam,
Y llencyn oedd newydd roi ffarwel i'w fam?"
Ond dwedai rhyw un âg ochenaid ddofn, ddofn,
"Nid ydwyf yn sicr, ond y mae arnaf ofn
Fod drwg wedi digwydd, pan ruai y gwynt,
Gan luchio a thaflu y llong ar ei hynt,"
'Roedd William yn mrigyn yr hwylbren, hir, praff,
Yn ceisio ategu yr hwyl gyda rhaff;
Fe ruthrai y gwynt, ac mewn eiliad neu ddwy
'Roedd y llanc wedi myned na welwyd ef mwy.

Y tu ol i'r llestr, draw, draw ar y donn,
Yn ymladd am fywyd, 'roedd llanc a fu'n llon,
A'i obaith a'i nerth ar ddiffygio yn llwyr,
A'r t'w'llwch yn dechreu cau amrant yr hwyr;
Ar hyn, dacw gwch yn nesau ato ef,
A'i hwyliau fel edyn rhyw angel o'r nef;