Ymgrymai i roddi ei gusan i hon,
A'r cwbl a ddwedodd a'i ben ar ei bron,—
"Fy Mari, O fy Mari!"
Ond William ddeffroai yn raddol ar hyn,
A bywyd ail wridai ei wyneb gwyn, gwyn,
A gwybu yn fuan mai morwr cryf, llon,
A'i cipiodd mor wyrthiol o afael y donn;
'Roedd hwnnw ac ereill yn dianc o Ffrainc,
Pan oedd yr hen Boni yn llywydd y fainc.
A phan y daeth William i fywyd yn ol,
'Roedd y wawr yn ymgodi a'r haul yn ei chôl,
Gan chwalu y t'w'llwch a'r caddug ar daen,
A bryniau hen Gymru 'n ymgodi o'i flaen.
Edrychai'n fyfyriol ymlaen tua'r tir,
A'i freuddwyd yn gwibio trwy'i feddwl mor glir,
A syllai bob 'nail ar y morwr hardd, cryf,
Yr hwn a achubodd ei fywyd mor hŷf;
A chofiai ei freuddwyd, ei gartref, a'r dyn
Yn curo y drws, ac yn agor ei hun,
Ac nis gall anghofio y dyn yn ei fyw,
Wrth weled y morwr yn gweithio y llyw.
"Paham yr edrychwch i'm gwyneb o hyd?"
Gofynnai y morwr, tra gwrol ei bryd;
"Myfyrio yr oeddwn ar freuddwyd tra ffôl,"
Medd William, gan syllu i'r glannau yn ol,
"Lle gwelais fy hunan yn blentyn di-nam,
Yn chwareu o amgylch i liniau ei fam;—
Lle clywais i rywun yn curo yn hŷ',
A morwr o rywle yn dyfod i'r tŷ,
A synnu yr oeddwn, mor debyg i chwi
Oedd hwnnw a welais yn dod i'n tŷ ni."