Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dywedwch i mi," ebe'r morwr yn awr,
Gan syllu drwy bellder goleuni y wawr,
"A oes gan eich mam lygad glas yn ei phen
Sy'n ganmil disgleiriach na glesni y nen?
Oes ganddi hi ruddiau, dywedwch yn rhwydd,
A wrident yr eira pe bae yn eu gwydd?
Oes ganddi hi wallt fel y nos ar ei phen
Yn disgyn fel cwmwl ar hyd ei grudd wen?
Ond gall, o ran hynny, fod main gennych chwi
Yn ateb i'r darlun a dynnir gen i,
A mi heb ei gweled mewn llan nac mewn llys,
Ond,—welsoch chwi fodrwy ryw dro ar ei bŷs,
A math o lun calon mewn perlau yn hon,
A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron?"

"Mae gan fy mam lygaid fel glesni y nen,
A gwallt sydd fel hanner y nos ar ei phen,
Mae harddwch yn byw ar ei gwefus a'i gên,
Ac ysbryd serchawgrwydd yn dawnsio'n ei gwên;
Ac hefyd, wrth feddwl, mae adgof gen i
Am fodrwy 'run fath a'r un hon ddwedsoch chwi,
A math o lun calon mewn perlau yn hon,
A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron!"

"Ai breuddwyd yw hyn?" ebe'r morwr yn rhydd,
A'i deimlad a'i galon yn neidio i'w rudd,
"Ai'm mab a achubais o afael y donn?
Ai delw fy Mari yw'r llygad byw, llon,
A welaf o'm blaen? 'Rwyf yn diolch i'r Nef,
Mae Mari yn fyw, a fy machgen yw ef!"

IV

"Roedd annedd fy Mari a minnau a'r ddôr
A'i gwyneb i waered at lan y môr,
Ac ni fu dedwyddach dau yn y byd
Na Mari a minnau tra buom yn nghyd.