Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ryw noson anhapus—mi cofiaf hi byth—
Daeth ysbryd anghydfod dros drothwy ein nyth,
A Mari a minnau a gawsom air croes,—
Y cyntaf a gawsom erioed yn ein hoes.

"Eis allan yn sydyn, a chauais y ddôr,
A chrwydro y bum ar hyd erchwyn y môr,
Yn gwylio y tonnau yn chwareu'n y fan
Ym mynwes eu gilydd hyd ymyl y lan;
Dan chwerthin a neidio o amgylch fy nhroed,
Yn orlawn o fywyd fel plant deuddeg oed.
Meddyliais mor ffôl y bum i gyda'r fûn
A garwn yn fwy na fy enaid fy hun;
Ac eistedd a wnaethum mewn myfyr tra syn,
A chenais gân fechan yn debyg i hyn,—


"‘Mari anwyl, wnei di faddeu
Fy ymadrodd creulon, ffôl,
Gaf fi yfed gwin dy wenau
Pan y deuaf yna'n ol?
Pam y rhaid i gariad cywir
Fod yn llanw ac yn drai?
Arnaf fi, fy Mari anwyl,
Arnaf fi yr oedd y bai.

"‘Mynnaf brynnu gown o sidan
Goreu fedd yr hollfyd crwn,
I'w roi i Mari â'm llaw fy hunan,
I wneud fyny'r cweryl hwn;
Gwn y medr Mari faddeu
Holl ffaeleddau cariad gwir,
A thrawsffurfio gyda'i gwenau
Gwmwl du yn awyr glir.'


"Pan oeddwn yn dychwel a'r gown i fy mûn,
Gan deimlo yn ddig wrth fy ffoledd fy hun,