A theimlo y mynnwn i wneuthur fy rhan
I garu y cweryl o'r tŷ yn y fan;
Ar hynny! mi deimlwn ryw law nerthol, fawr,
O'm hol yn fy nhynnu yn llegach i'r llawr,
A phedwar o forwyr a'm rhwyment mewn brâd,
Ac ymaith y'm cipiwyd i lawr at y bâd!
Un cilgwth!—un floedd a drywanai fy mron,
A dyna ni'n nofio ar wyneb y donn.
"Llong ryfel angorai draw, draw ar y donn,
A rhwyfai y morwyr yn union at hon,
A mi, fel mewn breuddwyd, a gefais fy hun
(Yn lle bod yn gofyn maddeuant fy mûn)
Yn nghanol y milwyr, a'r morwyr llawn brad
Yn hwylio i ryfel yn syth o fy ngwlad."
V
Ryw fore, rhoi'r postman ddau guriad i ddôr
Y bwthyn bach hwnnw yn ymyl y môr,
A Mari a glybu, ond teimlai ryw fraw
Yn mynd at ei chalon, a chrynnai ei llaw,
A methai gan ofnau a myned ymlaen,
'Roedd blwyddau er pan gadd hi lythyr o'r blaen.
Hi gafodd y llythyr ar drothwy y ddôr,
A gwelai ei fod wedi dod dros y môr;
Llawysgrif pwy ydoedd? O ba wlad y daeth?
Ai William sy'n glaf, neu a oes newydd gwaeth?
Agorodd y sêl, a darllennodd—ond och!
'Roedd gwaed y cynhyrfiad yn rhewi ar ei boch;
Y capten a'i gyrrodd i ddweyd fel y bu—
Fod storm wedi codi, fod corwynt a'i ru
Bron wedi achosi llongddrylliad tra erch,
Ac hefyd fod William, canolbwynt ei serch,
Yng nghanol y ddrycin, a'r storm, wedi cwrdd
A damwain, a syrthio i'r môr dros y bwrdd.