Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FFARWEL Y FLWYDDYN

Ar noson ddrychinog, a gwyntog, ac oer,
Ysgubai'r ystormydd dros wyneb y lloer;
'Roedd delw y gaeaf ar ddaear a nen,
A thymor y flwyddyn yn dyfod i ben.

"Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "fe ddarfu fy ngwên,
Fy meibion, y misoedd, a'm gwnaethant yn hen;
Ces amdo yn barod, o lwydrew yn haen,
A dôr tragwyddoldeb sy'n agor o'm blaen.

"Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "'rwy'n estyn fy llaw,
A honno yn wleb gan y ddrycin a'r gwlaw;
'Rwy'n mynd i fyd arall i gloddio fy medd,
A'm chwaer sydd yn dyfod wrth droedfainc fy sedd.

"Pan anwyd fi gyntaf, 'roedd gwywder ar daen,
A mynwent prydferthwch o'm hol ac o'm blaen;
Daeth gwanwyn 'rol hynny, a'r blodyn morgun
A gododd ei sedd ar ei feddrod ei hun.

"Fe chwarddai y ddaear, a gwridai yr haul,
A minnau'n ysmalio mewn glesni a dail;
A chanai y gôg ei Sol-ffa y fan draw,
A'r fronfraith a ganai'r hen nodiant gerllaw.

"Daeth Mai gyda hynny a hirddydd a haf,
Ar fynwent y gaeaf daeth gerddi mor braf;
Priodais â harddwch gan gredu yn siwr
Fod llawnder Mehefin yn gyfoeth i'm gŵr.

"Pryd hynny, agorai'r amaethwr ei gêg,
A dywedai,—‘'Nawr, flwyddyn, mae eisieu hin dêg;'
Ond er iddo waeddi, y gwlaw oedd yn dod,
A'r m'linydd yn diolch am ddŵr ar ei rôd.