Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mi gefais fy meio am wlawio cyhyd,
A gwneuthur cryn niwed i'r gwair ac i'r ŷd;
Ond cofiwch chwi, ddynion, beth bynnag fu'r drefn,
'Roedd Duw a Rhagluniaeth o hyd wrth fy nghefn.

"O ddiwrnod i ddiwrnod, aeth haf ar ei hynt,—
Gostyngodd yr heulwen, a chododd y gwynt;
Daeth llwydrew fel lleidr, pan giliai yr haul,
Rhodd wenwyn ym mywyd y blodau a'r dail.

"Dechreuais cyn nemawr a wylo yn hallt,—
Dechreuodd y stormydd a thynnu fy ngwallt;
Aeth haf a'i brydferthwch i mi yn ddi goel,
'Rwy' heno yn marw yn dlawd ac yn foel.

"Mi glywais y clychau yn canu mor llon,
Wrth weled babanod yn dod at y fron;
Bum i gyda'r mamau yn siriol eu pryd
Yn gwenu a siglo uwch ben llawer crud.

"Mi glywais y clychau,—daeth mab a daeth merch
At allor yr eglwys i roi cwlwm serch;
Ar ol i mi farw, d'wed gwragedd di ri',—
‘Wel hon oedd y flwyddyn ro'dd fodrwy i mi.'

"Mi glywais y clychau yn brudd lawer gwaith,—
Mi welais yr elor yn myned i'w thaith;
Ar filoedd ar filoedd ce's weld yn ddiau
Y beddrod yn agor,—yn derbyn,—a chau!

"Ffarwel iti, ddaear,—ffarwel iti, ddyn,
Ffarwel yr hen bobol,—ffarwel, fab a mun;
Mae'n rhaid i ni 'madael, 'rwy'n marw, fy ffrynd,—
'Rwyt tithau yn dod os y fi sydd yn mynd.