"Ffarwel iti, Gristion, mae'm llyfrau ar gael,
Mae'm cyfrif fan honno i'r gwych ac i'r gwael;
'Rwy' wedi 'sgrifennu yn rhad ac yn rhydd,
MADDEUANT ar gyfer dy enw bob dydd.
"Ffarwel, ddyn annuwiol, mae gennyf ar lawr
Hen fill yn dy erbyn sy'n hynod o fawr;
'Rwy' heno'n rhy wanllyd i ddweyd yr amount,
Cawn oleu byd arall i setlo'r account!"
CORN Y GAD
(Y miwsig gan D. Emlyn Evans)
Mae corn y gâd yn galw'n hŷf,
A'n nghalon innau'n ateb hwnnw,
Mae'n galw ar y dewr a'r cryf
I fuddugoliaeth neu i farw,—
Ffarwel, f'anwylyd! Ail-adseinia'r nen
I gorn y gâd—ffarwel fy Ngwen.
"Ti wyddost nad yw'n iawn i ferch
I dynnu cledd ar faesydd gwaedlyd,
Er hyn gall anfon gweddi serch
At Dduw i'r nef dros ei hanwylyd;
Cei di fy mendith, Arthur, ar dy ben,
A'r nefoedd deimlo gweddi Gwen."
'Does neb ond y dewr yn haeddu cael bod
Yn deilwng i'w caru, yn deilwng o glôd;
Na neb ond gwladgarol a ffyddlon hoff fun
Yn haeddu cael calon y milwr a'r dyn.