Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CLYWCH Y FLOEDD I'R FRWYDR

("Cambrian War Song," gan Mr. Brinley Richards)

Clywch y floedd i'r frwydr,
Bloedd dros ryddid Cymru,
Ar y mynydd uchel draw
Llysg tafodau tân;
Clywch gleddyfau'n tincian,
A banerau'n clecian,
Cymry sydd yn dyfod allan,
Dros hen wlad y gân;
Er fod rhengau'r gelyn
Yn ymgau i'n herbyn,
Mynnwn weled Cymru'n rhydd,
Neu farw yn y gâd;
Fyny â'r banerau,
Chwifiwn ein cleddyfau,
Codwn floedd nes rhwygo'r nen,
Cymru ddaw yn rhydd.

Sŵn y gwynt pruddglwyfus
Sua yn y coed,
Hithau'r gornant nwyfus,
Chwery wrth fy nhroed;
Huno y mae popeth
Dan y cwrlid rhew,
Tra ffarwelia geneth
Gyda'i milwr glew.

Clywch y floedd yn codi,—
Bloedd dros ryddid Cymru,
Mynnwn weled Cymru'n rhydd
Neu farw dros ein gwlad;