Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhyddid ddaw i'n gwênau
Gyda gwawr y borau
Gwaedda ysbryd Cymru gynt,—
"Awn ymlaen i'r gâd."
Fyny â'r banerau,
Chwifiwn ein cleddyfau,
Codwn floedd nes rhwygo'r nen,
Cymru ddaw yn rhydd;
Clywch y floedd yn codi,
Mynnwn weld hen Gymru'n rhydd.

DYMA BEDWAR GWEITHIWR.

Dyma bedwar gweithiwr dedwydd
Gyda chydymdeimlad llwyr,
Gydgychwynant gyda'r wawrddydd,
Gyd-ddychwelant gyda'r hwyr;
Maent yn meddu gwragedd hawddgar,
Gyda phedwar bwthyn iach,
Ae mae gan bob un o'r pedwar
Bob i bedwar plentyn bach.

Dringa'r pedwar aeliau'r creigydd,
Tyllant gernau'r clogwyn câs,
Ac â'r pedwar dan y mynydd
Ar ol gwythi'r lechen las;
Pedwar diben sydd i'r pedwar,
Tra mae'r pedwar yn cydfyw,
Caru'u gwaith, eu gwragedd hawddgar,
Caru'u gwlad, a charu Duw.

(Caneuon y Chwarelwyr, ar ymôr yn agos i'r Werddon, Mawrth 10fed, '77)