Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhydd dy nentydd bach,
A dy awyr iach,
Nerth yn fy mraich
A fy nghalon i:
Trig cerdd a chân
Rhwng dy fryniau glân,
A chaniadau mwyn dy delynau mâd;
Ac mae'r awen wir
Yn llenwi'th dir—
Gwynfa y byd yw fy anwyl wlad.
Clywch y floedd, &c., &c.

Y DDWY BRIODFERCH.
(Efelychiad)

Mi welais yn yr eglwys
Ddwy eneth heirdd eu gwedd;
'Roedd un mewn gwisg priodas,
A'r llall yng ngwisg y bedd.

Darllenwyd y gwasanaeth,—
"I'r byw, i fyw," aeth un;
A'r llall yng nglynn marwolaeth
Briododd Angeu'i hun.

Fe aeth y ddwy i'w cartref
Yn ieuanc iawn en gwedd;
Aeth un i'r palas gorwych,
A'r llall i'r tywyll fedd.

Deffroai un y bore
Mewn byd llawn poen a chlwy;
Y llall oedd fil mwy dedwydd,
Cael peidio deffro mwy.