Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BETH SYDD ANWYL?

Pan yn nyddiau ie'nctid cu,
Beth sy'n anwyl?
Cael pleserau, a chariadau,
Hyn sy'n anwyl:
Crwydro drwy y coed a'r dail,
Son am gariad bob yn ail;
Gwneuthur coron flodan hardd
I f' anwylyd yn yr ardd,
Pan yn nyddiau ie'enctid cu,
Hyn sydd anwyl.

Pan y tyfa'r llanc yn ddyn,
Beth sy'n anwyl?
Tyrru elw—gwneuthur enw—
Hyn sy'n anwyl;
Cario'n faich ofidiau gant,
Casglu eyfoeth, magu plant,
Codi cestyll yn y gwynt,
Cestyll breuddwyd dyddiau gynt,
Pan y tyfa'r llanc yn ddyn,
Hyn sydd anwyl.

Ar brydnawnddydd byrr yr oes,
Beth sydd anwyl?
Hyder gwastad, ffydd a chariad,
Hyn sy'n anwyl;
Troi y cefn ar ofal byd,
Gweddi daer, a chartref clyd;
Cael cydwybod heb un briw,
Heddwch bron, a ffydd yn Nuw,
Ar brydnawnddydd byrr yr oes,
Hyn sy'n anwyl.